Yn ôl i'r brig

The ELO Encounter

Hafan » Beth sy' mlaen » The ELO Encounter
Cerddoriaeth

Symuda o’r ffordd Beethoven, achos mae’r deyrnged orau i Electric Light Orchestra Jeff Lynne wedi cyrraedd! Mewn sioe fyw sy’n cynnwys llinynnau esgynnol, harmonïau lleisiol trawiadol ac sy’n chwarae’r holl ganeuon poblogaidd o lyfrgell ELO sy’n llawn llwyddiannau ysgubol, gan gynnwys Evil Woman, Telephone Line a Don’t Bring Me Down.
Mae’r ELO Encounter yn addo noson llawn roc a rôl a ‘Blue Skies’ a fyddai’n gwneud i hyd yn oed Mozart a Bach ddawnsio yn eu seddi! Felly, ‘Hold On Tight’, oherwydd mae ‘Rock and Roll Is King’ mewn sioe sy’n sicr o’ch cael chi’n partio ‘All Over The World’!

Nid yn unig yn ail-greu cerddoriaeth fendigedig yr ELO, mae’n sioe fyw ysblennydd o’r dechrau i’r diwedd. Mae goleuadau syfrdanol ac effeithiau arbennig yn creu awyrgylch a fydd yn gwneud i chi ymgolli’n llwyr yn yr holl brofiad. Wrth i’r ELO Encounter chwarae clasuron ELO un ar ôl y llall, mae’n sicr o wneud i’r gwallt ar gefn eich gwddf ddawnsio i guriad y gerddoriaeth!!

Efallai yr hoffech chi hefyd...

15 Mawrth 2025

Still Here

Theatre
21 Mawrth 2025

The Magic of Motown

Cerddoriaeth
22 Mawrth 2025

Top Secret: The Magic of Science

Teulu
5 Ebrill 2025

Emilio Santoro as Elvis

Cerddoriaeth