Ymunwch â chwmni arobryn Protein am noson hynod ddifyr gyda ffrindiau a theulu.
Yn trawsnewid eich lleoliad lleol chi’n fwyty, rydych chi’n cael eich gwahodd i ddod â phryd o fwyd i’w rannu tra byddwch chi’n eistedd wrth fyrddau addurnedig i wylio, blasu a threulio cymysgedd chwareus o ddawns, theatr a chanu sy’n digwydd o’ch cwmpas chi.
Bydd eich gwesteiwyr swynol, aml-dalentog yn denu eich serch chi â dawnsio a monologau digrif. Gyda chyfnodau o egwyl i wneud pethau gan gynnwys pobi cacen a mentro mewn cystadleuaeth raffl, byddy gymanfa odidog hon yn siŵr o’ch gwneud chi chwerthin a mwynhau’r berthynas ryfeddol sydd gennym ni oll gyda bwyd.
Dewch â bwyd i chi’ch hun neu fwyd i’w rannu:
Yn rhan o’r noson, mae aelodau’r gynulleidfa’n cael eu hannog i ddod â rhywfaint o fwyd
maen nhw wedi’i wneud, ei dyfu neu ei brynu i’w fwyta neu ei rannu, neu eitem i’w rhoi i fanc
bwyd lleol.
Cymeradwyaeth
“Lip-smacking fusion of song, dance, mime and sweet aperitif tomatoes.”
★★★★ The Guardian
“It brings a whole new meaning to the term: ‘supper theatre’…a yummy night out!”
★★★★ The Stage
“An absorbing smorgasbord of food-related ideas and issues, containing humour, pathos
and sensuality.”
★★★★ Dance Tabs