Ar diwedd mis Gorffennaf, rhyddhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ragor o wybodaeth am ddyfodol arfaethedig Sefydliad y Glowyr Coed Duon.
Y cynnig yw tynnu’r cymhorthdal yn ôl o’r lleoliad, a allai arwain at ei “roi o’r neilltu” o fis Ionawr 2025.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos yn cael ei gynnal nawr, lle bydd aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid yn cael cyfle i roi eu barn ar y cynigion hyn. Isod fe welwch ddolen i’r cynigion a’r arolwg.
Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr rhoi o’ch amser i gynnig eich barn ar ddyfodol Sefydliad y Glowyr Coed Duon.
https://conversation.caerphilly.gov.uk/blackwood-miners-institute-and-llancaiach-fawr