Yn ôl i'r brig

Telerau ac amodau

Amodau Gwerthu

Dylech ddarllen y telerau ac amodau canlynol yn ofalus, gan ei bod yn bwysig ichi ddeall y berthynas gontractiol rydych yn ymrwymo iddi trwy brynu Tocyn dros y ffôn, dros y cownter neu drwy’r wefan.

1. Mae’r rheolwyr yn cadw’r hawl i

1.1. Gwrthod mynediad i’r safle a / neu fynd â chi o’r Lleoliad neu unrhyw berfformiad yn yr amgylchiadau canlynol:
(a) os ydych chi neu unrhyw un yn eich parti yn ymddwyn mewn ffordd a fydd neu a fydd o bosibl yn cael effaith niweidiol ar fwynhad pobl eraill yn ein lleoliad neu unrhyw berfformiad; (b) os ydych, yn ein barn ni, yn ymddwyn mewn modd afresymol oherwydd eich bod dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau neu fel arall; (c) os ydych chi neu unrhyw un yn eich parti yn ymddwyn mewn modd bygythiol neu ymosodol a / neu yn defnyddio iaith fygythiol, ddifrïol neu sarhaus at ein staff neu aelodau o’r cyhoedd.

1.2 Gofyn i ddeiliad y Tocyn adael y safle a chymryd unrhyw gamau priodol i orfodi cais o’r fath.

1.3 Bydd y Lleoliad yn ceisio gadael hwyrddyfodiaid i mewn ar y cyfle addas cyntaf, a all fod yn ystod yr egwyl. Ar gyfer rhai Digwyddiadau ni ellir gwarantu mynediad hwyr.

1.4 Gwneud unrhyw newid o gwbl i’r perfformiad / digwyddiad / rhaglen / cast oherwydd unrhyw achos na fu modd ei ragweld neu ei osgoi.

1.5 Canslo neu roi’r gorau i’r perfformiad / digwyddiad am resymau sydd y tu hwnt i’w reolaeth heb rybudd a heb fod yn atebol i dalu i unrhyw berson unrhyw ddigollediad neu iawndal o gwbl ac eithrio, ar ddisgresiwn y rheolwyr, o bosibl ad-dalu canran neu’r cwbl o werth y Tocyn i ddeiliad y Tocyn.

1.6 Mewn amgylchiadau eithriadol rydym yn cadw’r hawl i gynnig seddi gwahanol i’r rhai a nodir ar y Tocynnau.

1.7 Gosod cyfyngiadau ar nifer y Tocynnau a archebir.

2. Amodau gwerthu cyffredinol

2.1 Gellir ail-argraffu Tocynnau am seddi cadw sydd wedi’u colli neu eu hanghofio ar ddiwrnod y perfformiad gyda phrawf o bwy ydych chi. Gellir ail-argraffu Tocynnau am sioeau heb seddi cadw ar ddiwrnod y perfformiad, ond cewch fynediad i’r awditoriwm ar ôl i bawb arall fynd i’w sedd.

2.2 Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn gweithredu fel asiant Tocynnau ar gyfer digwyddiadau allanol. Nid yw’r digwyddiadau hyn yn cael eu hyrwyddo gan Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, ac nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw agwedd ar eu rhaglen neu eu gweithrediad. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at yr Hyrwyddwr dan sylw.

2.3 Gall Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, gael ei logi gan Hyrwyddwyr allanol ar gyfer digwyddiadau.  Nid yw’r digwyddiadau hyn yn cael eu hyrwyddo gan y Lleoliad ac nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw agwedd ar eu rhaglen neu eu gweithrediad. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y cwmni llogi dan sylw.

2.4 Os hawlir consesiwn, mae’n bosibl y bydd prawf o bwy ydych chi a’ch hawl i gael consesiwn yn ofynnol a dim ond un gostyngiad y gellir ei roi i bob Tocyn. Mae’n bosibl y bydd gostyngiadau’n gyfyngedig.

2.5 Rhaid ichi roi inni fanylion cywir amdanoch chi a’ch archeb ar adeg eich archeb, p’un a yw’r archeb yn cael ei gwneud ar lein, dros y ffôn neu’n bersonol. Ar ôl cael eich Tocynnau, gwiriwch fod eich Tocynnau ar gyfer y digwyddiad, dyddiad ac amser cywir, gan na ellir unioni camgymeriadau ar ddiwrnod y digwyddiad o angenrheidrwydd.

2.6 Mae’n bosibl y bydd cyfyngiad oed ar ddigwyddiadau a chyfrifoldeb deiliad y Tocyn yw gwirio hyn cyn prynu Tocyn.

2.7 Rhaid i ddeiliaid Tocynnau gydymffurfio â’r holl statudau perthnasol, cyhoeddiadau diogelwch a rheoliadau’r Lleoliad wrth fynychu’r digwyddiad.

2.8 Rhaid i blant iau nag 16 oed fod ag oedolyn (18+), rhiant neu warcheidwad gyda hwy a rhaid i bob un fod â Thocyn dilys.

2.9 Mae plant a phobl ifanc rhwng 18 mis a 15 oed yn gymwys i gael gostyngiadau i rai dan 16 oed ar brisiau Tocynnau lle bo’r rheiny ar gael; ni chodir tâl am blant iau na 18 mis oed (babanod ar freichiau eu mamau) oni ddywedir fel arall.

2.10 Rhaid rhoi gwybod i’r Lleoliad am unrhyw ofynion mynediad ar adeg y gwerthiant. Os na roddir gwybod i’r Lleoliad am ofynion mynediad, ni all warantu y darperir seddi hygyrch, cyfarpar a / neu fannau i gadeiriau olwyn.

2.11 Os ydych wedi prynu Tocynnau / Talebau Rhodd ar ran pobl eraill, chi sy’n gyfrifol am roi gwybod i’r bobl hynny am y telerau ac amodau hyn ac am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â hwy.

3. Canslo a chyfnewid ac ad-daliadau am Docynnau

3.1 Ni roddir ad-daliadau ond pan gaiff digwyddiad ei ganslo. Os na allwch fynd i ddigwyddiad mae’n bosibl y gellir cyfnewid y Tocynnau hyd at 48 awr cyn y digwyddiad (os oes rhai ar gael), neu ar ddisgresiwn staff y Swyddfa Docynnau, mae’n bosibl y gellir rhoi taleb credyd. Codir ffi weinyddol o 50c am bob Tocyn i wneud hyn.

3.2 Pan gaiff perfformiad ei ganslo, bydd y swm llawn yn cael ei ad-dalu trwy siec neu gerdyn, gan ddibynnu ar y dull talu gwreiddiol. Nodwch na allwn gynnig ad-daliad mewn arian parod. Bydd ad-daliadau am arian parod yn cael eu gwneud gyda siec.

3.3 Dim ond i’r sawl a brynodd y Tocynnau y bydd ad-daliadau’n cael eu gwneud.

3.4 Yn achos Digwyddiad a gaiff ei ohirio / ad-drefnu, cynigir i Gwsmeriaid Docynnau o’r un gwerth am y dyddiad / amser newydd, os oes rhai ar gael. Os nad yw’n bosibl cynnig Tocynnau o’r un gwerth, mae’n bosibl y cynigir Tocynnau gwahanol. Os nad yw’r Cwsmer eisiau derbyn y Tocynnau hyn, gellir cael ad-daliad am werth enwol y Tocynnau.

3.5 Mae’r Lleoliad yn cadw’r hawl i ganslo Tocynnau y mae’n amau’n rhesymol eu bod wedi’u archebu’n dwyllodrus, sy’n fwy na’r cyfyngiadau a hysbysebir ar nifer y Tocynnau y gall person / aelwyd eu prynu, neu y mae’n amau eu bod wedi’u hailwerthu, neu y ceisiwyd eu hailwerthu, er elw ariannol. Bydd unrhyw gyfyngiadau perthnasol ar nifer y Tocynnau y gellir eu prynu yn cael eu hegluro ar adeg archebu.

4. Cadw Tocynnau

Gellir cadw Tocynnau (heb dalu ar unwaith) os ydych yn archebu dros y ffôn neu yn bersonol yn swyddfa docynnau’r Lleoliad. Byddwn yn dal eich Tocynnau am dri diwrnod cyn y bydd yn ofynnol talu, oni fo llai na thri diwrnod tan y digwyddiad neu os yw bron pob un o’r tocynnau i’r perfformiad wedi’u gwerthu.

Rhaid talu’n llawn am docynnau a brynir ar lein ar yr adeg archebu. Os nad yw taliad llawn am y tocynnau a gadwyd wedi dod i law o fewn y cyfnodau a nodir uchod, bydd y Tocynnau cadw’n cael eu canslo.

5. Prisiau Tocynnau

5.1 Rhaid gwneud cais am gonsesiynau / gostyngiadau ar brisiau Tocynnau ar adeg y pryniant ac ni ellir eu cymhwyso i Docynnau a brynwyd eisoes. Mae’n bosibl y gofynnir i’r Cwsmer am brawf o’r hawl i gonsesiwn / gostyngiad / Tocyn cydymaith Hynt ar adeg archebu a / neu pan mae’n mynychu’r Digwyddiad. Mae’n bosibl y bydd peidio â chynnig prawf rhesymol o hawl i gonsesiwn / gostyngiad / Tocyn cydymaith Hynt yn gwneud y Tocyn yn annilys ac yn arwain at wrthod mynediad ichi neu eich troi allan o’r Lleoliad.

5.2 Cynigir consesiynau / gostyngiadau yn unigol ac ni ellir eu defnyddio ar y cyd â’i gilydd. Os yw’r Cwsmer yn gymwys i gael mwy nag un gyfradd gonsesiynol / ostyngol, bydd yn cael y pris gostyngol sengl rhataf, nid pris gostyngol cronnol.

5.3 Mae’r Lleoliad yn cadw’r hawl i gyflwyno gostyngiadau a chynigion arbennig ar unrhyw adeg ac ni ellir cymhwyso’r rhain i Docynnau a brynwyd eisoes. Mae’r holl Docynnau, mathau o brisiau a gostyngiadau yn dibynnu ar argaeledd, gellir eu newid a / neu eu tynnu’n ôl heb rybudd ymlaen llaw ac nid ydynt yn gymwys i Docynnau a brynwyd eisoes. Mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i gyflwyno cynigion a newidiadau i brisiau heb rybudd ymlaen llaw. Pris y Tocyn fydd y pris a bennir ar yr adeg y caiff eich archeb ei derbyn.

5.4 Gall prisiau Tocynnau newid. Mae’r Lleoliad yn cadw’r hawl i newid prisiau Tocynnau a / neu gyflwyno gostyngiadau / cynigion arbennig na ellir eu cymhwyso’n ôl-weithredol i Docynnau a brynwyd eisoes.

6. Ffioedd Archebu

6.1  Yn unol ag arferion presennol y diwydiant ar gyfer theatrau a Lleoliadau, codir ffi archebu o 75c am bob tocyn ar yr holl Docynnau am berfformiadau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a brynir yn bersonol, dros y ffôn neu ar lein. Mae’r ffi hon wedi’i chynnwys yn y prisiau a welwch yn ein llyfryn hysbysebu a rhestri sioeau. Mae’r ffi yn cyfrannu at gynhyrchu’ch Tocynnau, prosesu’ch archeb, gwella ein technoleg bresennol a pharhau i ddarparu gwasanaeth eithriadol i’n cwsmeriaid.
Ein nod yw darparu gwasanaeth o’r safon uchaf i gwsmeriaid p’un a ydynt yn ymweld â ni yn bersonol neu’n ymwneud â ni dros y ffôn neu ar lein. Bydd y ffi fach hon yn ein galluogi i barhau i wneud hyn yn wyneb galwadau cynyddol ar adnoddau gwerthfawr.

6.2 Codir ffi uwch am yr holl Docynnau rydym yn eu gwerthu ar ran trydydd parti er mwyn talu costau prosesu’r Lleoliad.

7. Gwaharddiadau a Chydsyniad y Gynulleidfa

7.1 Gwaherddir ailwerthu, neu geisio ailwerthu, Tocyn a hynny heb awdurdod. Mae’r Lleoliad yn cadw’r hawl i ganslo Tocynnau y mae’n amau’n rhesymol y cynigiwyd eu hailwerthu heb awdurdod. Dylai cwsmeriaid sy’n ansicr a yw gwerthwr yn asiant awdurdodedig gysylltu â’r Lleoliad i gael eglurhad. Nid yw’r Lleoliad yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddilysrwydd Tocynnau a brynir oddi wrth asiantau anawdurdodedig.

7.2 Oni cheir caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw oddi wrth y Lleoliad, ni cheir cyfuno tocynnau â lletygarwch, taith, llety, nwyddau a / neu unrhyw gynnyrch neu wasanaeth arall i greu pecyn Tocynnau i’w werthu er elw masnachol.

7.3 Mae defnyddio offer i recordio neu ddarlledu deunydd sain a / neu weledol y tu mewn i’r Lleoliad wedi’i wahardd yn llwyr. Mae’n bosibl yr eir â recordiadau, tapiau neu ffilmiau anawdurdodedig neu eitemau tebyg ac y cânt eu dinistrio. Bydd unrhyw recordiad a wneir yn groes i’r amodau hyn yn eiddo i’r Lleoliad a / neu Hyrwyddwr y Digwyddiad.  Ni fydd yr Hyrwyddwr na’r Lleoliad yn atebol am golli, dwyn neu ddifrodi eitemau yr eir â hwy.

7.4 Trwy fynychu’r Digwyddiad, mae cwsmeriaid yn rhoi eu cydsyniad am wneud ffilmiau, ffotograffau a recordiadau sain ohonynt fel aelodau o’r gynulleidfa. Y Lleoliad a / neu Hyrwyddwr y Digwyddiad fydd perchennog hawlfraint y fath ddeunydd a chaiff ddefnyddio’r fath ffilmiau / ffotograffau / recordiadau at unrhyw ddiben, gan gynnwys dibenion masnachol, heb daliad na hysbysiad pellach.

7.5 Rhaid i ffonau symudol, cyfarpar negeseua a’r holl gyfarpar electronig personol tebyg gael eu diffodd yn ystod y Digwyddiad. Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid nad ydynt yn cydymffurfio, ac sy’n tarfu ar fwynhad o’r Digwyddiad i gwsmeriaid eraill, yn cael eu troi allan o’r Lleoliad heb ad-daliad.

8. Talebau Rhodd

8.1 Gellir cyfnewid talebau rhodd i dalu’n llawn neu’n rhannol am Docynnau ar gyfer Digwyddiadau sy’n cymryd rhan, yn bersonol neu dros y ffôn trwy swyddfa docynnau’r Lleoliad neu ar wefannau’r Lleoliad.

8.2 Mae talebau rhodd yn dod i ben ar ddiwedd y mis flwyddyn ar ôl dyddiad y pryniant. Ni ellir cyfnewid talebau sydd wedi dod i ben ac ni roddir ad-daliad amdanynt. Mae’r dyddiad dod i ben wedi’i argraffu’n glir ar bob taleb.

8.3 Ni ellir cyfnewid talebau rhodd am arian parod.

9. Danfon

9.1 Os yw Cwsmeriaid wedi dewis cael eu Tocynnau trwy’r post neu eu hargraffu gartref, eu cyfrifoldeb hwy yw rhoi gwybod i’r Lleoliad os nad yw’r Tocynnau wedi dod i law cyn amser dechrau’r Digwyddiad fel y’i hysbysebwyd. Os na roddir gwybod i’r Lleoliad nad yw’r Tocynnau wedi dod i law cyn dechrau’r Digwyddiad, ni chynigir ail gopïau o’r Tocynnau nac ad-daliad.

9.2 Mae’r Lleoliad yn cadw’r hawl i bostio Tocynnau dim ond i gyfeiriad bilio cofrestredig y cerdyn a ddefnyddiwyd i’w prynu.

9.3 Mae’r Lleoliad yn cadw’r hawl i drefnu i’r Tocynnau fod ar gael i’w casglu gan y Cwsmer yn y swyddfa docynnau. Os bydd angen gwneud hyn, bydd y Lleoliad yn gwneud pob ymdrech  resymol i roi gwybod i’r Cwsmer am y newid cyn y Digwyddiad a bydd unrhyw ffioedd postio a dalwyd yn cael eu had-dalu.

9.4 Pan gaiff Tocynnau eu casglu yn y swyddfa docynnau, mae’n bosibl y gofynnir i’r Cwsmer gyflwyno’r cerdyn a ddefnyddiwyd i brynu’r Tocynnau fel ffordd o ddangos pwy ydyw. Os nad yw hyn yn bosibl rhaid iddo gysylltu â’r swyddfa docynnau cyn diwrnod y Digwyddiad.

10. Atebolrwydd

10.1 Ni fydd y Lleoliad yn gyfrifol am unrhyw anaf nac am golli, dwyn neu ddifrodi eiddo personol Cwsmer, ac eithrio’r hyn a achosir oherwydd esgeuluster neu dordyletswydd statudol arall.

10.2 Caiff trefniadau personol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, deithio, llety a chynhaliaeth gysylltiedig â’r Digwyddiad, eu gwneud yn gyfan gwbl ar fenter y Cwsmer ei hun, ac ni fydd y Lleoliad yn atebol am unrhyw golledion a achosir gan y trefniadau hyn.

10.3 Nid oes dim yn y telerau ac amodau hyn yn ceisio eithrio atebolrwydd y Lleoliad am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ei esgeuluster nac unrhyw fater arall y byddai’n anghyfreithlon inni eithrio neu geisio eithrio ein hatebolrwydd amdano.

10.4 Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

11. Diffiniadau

Ystyr ‘Tocyn’ yw unrhyw eitem, diriaethol neu anniriaethol, sy’n rhoi’r hawl i fynychu Digwyddiad.
Mae ‘Cwsmer’ yn cynnwys y sawl a brynodd, neu sy’n bwriadu prynu, Tocynnau a’r rheiny yn ei barti sy’n mynychu’r Digwyddiad, y mae’n rhaid i bob un ohonynt feddu ar Docyn dilys.

Ystyr ‘Lleoliad’, ‘ni’ ac ‘ein’ yw Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, elusen rhif 1000905, â’r cyfeiriad cofrestredig Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon, Caerffili, NP12 1BB.

Ystyr ‘Hyrwyddwr’ yw’r endid sy’n llwyfannu / cynhyrchu’r Digwyddiad, a all fod yn wahanol i’r Lleoliad.

Ystyr ‘argraffu gartref’ yw’r dull danfon lle caiff Tocynnau PDF eu hanfon at y Cwsmer trwy e-bost.