15 — 16 Mai

Sefydliad Y Glowyr Coed Duon

£18.00 (Mae prisiau'n cynnwys ffi archebu o 75c y tocyn )

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ‘Owen Money's Jukebox Heroes’ yn 2016, ac yna ‘Owen Money's Jukebox Heroes II’ yn 2018; mae Owen yn dychwelyd gyda sioe fyw arall sy'n llawn talent ac yn cynnwys cerddoriaeth o'i raglenni penwythnosol ar BBC Radio Wales; ac wrth gwrs bydd yn cynnwys ei ddull comedi unigryw a'r ‘Cellwair Cymreig’! 

Dyma hi, ‘Owen Money's Jukebox Heroes III’…

Bydd ‘The Travelling Wrinklies’ yn ymuno ag Owen ar y llwyfan, a nhw fydd yn cyfeilio perfformiadau teyrnged syfrdanol i enwogion y byd cerdd…

Bydd Owen a'r band yn cyfeilio llais anhygoel Alex John, wrth iddyn nhw atgyfodi seiniau arloesol The Beach Boys.

Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan Katie Mittell wrth iddi dalu teyrnged i enwogion y byd canu'r enaid fel Aretha Franklin, Etta James a Nina Simone.

Wrth i Jeff Phillips gamu i'r llwyfan, fe yw Neil Diamond

Yn ôl Tina, ‘We don’t need another hero’, ond beth am un bach arall?  

Sara Jones sy'n llenwi'r llwyfan â'i phortread anhygoel o Miss Tina Turner.

Dyddiadau Ac Amseroedd
Gwen 15 Mai
Sefydliad y Glowyr Coed Duon
19.00
Doors open: 18.00
Sad 16 Mai
Sefydliad y Glowyr Coed Duon
19.00
Doors open: 18.00