Yn ôl i'r brig

Eich ymweliad

Rydym eisiau i’ch ymweliad â Sefydliad y Glowyr, Coed Duon,  fod mor bleserus ag sy’n bosibl. Beth bynnag yw’ch rheswm dros ymweld, dyma’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen, gobeithio.

Sut i ddod o hyd i ni

Saif Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yng Nghymoedd De-ddwyrain Cymru, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae ein safle ar stryd fawr brysur Coed Duon yn golygu ein bod yng nghalon y gymuned.

Ein cyfeiriad

Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon, Caerffili, NP12 1BB

Cyrraedd ar y ffordd

O’r M4 tua’r gorllewin (Casnewydd) – wrth gyffordd 28 ewch ar yr A467 a dilynwch yr arwyddion tuag at Frynmawr ac wedyn Coed Duon. O’r A465 (Ffordd Blaenau’r Cymoedd), ewch ar yr A4048 tuag at Dredegar ac wedyn Coed Duon. Ffoniwch 01495 227206 i gael rhagor o fanylion. O’r M4 tua’r dwyrain (Caerdydd), wrth gyffordd 32 ewch ar yr A470, wedyn yr A468 (ag arwyddion i Gaerffili), wedyn yr A469 (ag arwyddion i Ystrad Mynach), wedyn yr A472 (ag arwyddion i Goed Duon).

Trafnidiaeth gyhoeddus

Gallwch gynllunio’ch taith gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gyda chynlluniwr teithiau Traveline Cymru.


Parcio ceir yng nghoed duon

Mae digonedd o leoedd parcio cyn lleied â gwaith dwy funud o gerdded i ffwrdd. Dylech sicrhau y darllenwch yr holl arwyddion yn ofalus yn y maes parcio o’ch dewis gan y gall cyfyngiadau fod ar waith. Mae holl feysydd parcio Talu ac Arddangos Bwrdeistref Sirol Caerffili am ddim ar ôl 6pm. Mae gan Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, nifer gyfyngedig o leoedd parcio mynediad i bobl anabl. Rhaid eu cadw ymlaen llaw trwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01495 227206.


Oriau agor

Oriau agor cyffredinol yr adeilad

Dydd Llun – dydd Gwener: 10am – 4pm
Dydd Sadwrn: Ar gau
Dydd Sul: Ar gau

Mae mynediad cyfyngedig i’r adeilad y tu allan i oriau agor y swyddfa docynnau. Os ydych eisiau mynd i mewn i’r adeilad y tu allan i’r oriau hyn, siaradwch ag aelod o’n tîm trwy ddefnyddio ein system intercom. Mae’r blychau intercom wrth y brif fynedfa ac wrth y drws mynediad gwastad yng nghefn yr adeilad.

Oriau agor y swyddfa docynnau

Dydd Llun – dydd Gwener: 10:00am – 4:00pm

Ar ddiwrnodau perfformiadau mae’r swyddfa docynnau yn agor 1 awr cyn dechrau’r perfformiad ac yn cau ar ôl i’r perfformiad ddechrau.

Oriau agor y bar

Mae ein bar sydd â thrwydded lawn yn cynnig amrywiaeth fawr o ddiodydd a melysion. Mae te a choffi ar gael hefyd. Mae’r bar yn agor 1 awr cyn i’r perfformiad ddechrau. Wrth gyrraedd y Theatr, gallwch osgoi’r prysurdeb yn yr egwyl trwy archebu’ch diodydd ymlaen llaw wrth y bar.


Hygyrchedd

Nod Sefydliad y Glowyr, Coed Duon,  yw bod yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Rydym wedi ymrwymo i wneud eich ymweliad mor hawdd a phleserus ag sy’n bosibl. Rhowch wybod inni beth yw’ch anghenion o ran mynediad a byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i’w diwallu. Am ragor o wybodaeth, gweler y dolenni isod.

Gwybodaeth am fynediad

  • Mae lifft a grisiau rhwng y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf. Dim ond grisiau sydd rhwng y llawr cyntaf a’r ail lawr.
  • Mae cownteri gwasanaethau isel yn y swyddfa docynnau a’r bar ar y llawr gwaelod.
  • Mae rhes HH wedi’i neilltuo i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac ymwelwyr ag anghenion mynediad ychwanegol. I archebu seddi mewn rhes HH cysylltwch a ni ar 01495 227206.
  • Dim ond gan ddefnyddio grisiau y gellir cyrraedd gogwydd a balconi’r awditoriwm. Rydym yn cadw seddi hygyrch ar gyfer pob perfformiad, ond mae’n dibynnu a fydd rhai ar gael. Os oes gennych symudedd cyfyngedig, rhowch wybod i ni wrth archebu fel y gallwn sicrhau bod eich seddi’n addas ar gyfer eich anghenion.
  • Gellir trefnu archebion egwyl ymlaen llaw a gallwn ddod â’ch archeb atoch yn y theatr.
  • Mae gennym arwyddion Braille drwy’r adeilad.
  • Mae croeso i gŵn cymorth. Byddwn yn rhoi dŵr i gŵn cymorth. Os yw hyn yn rhywbeth y bydd ei angen arnoch, rhowch wybod i’n staff blaen tŷ.
  • Mae’r llyfryn ar gael mewn print bras neu ar ffurf electronig ar gais.
  • Rhif Minicom 01495 227206
  • Gwasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf (NGT) – Os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy NGT, rhowch 18001 cyn rhif ein swyddfa docynnau (01495 227206).
  • Mae gan Sefydliad y Glowyr nifer gyfyngedig o lefydd parcio i bobl anabl (os bydd rhai ar gael) yng nghefn yr adeilad. Sylwch fod yn rhaid cadw’r rhain ymlaen llaw. Ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01495 227206 neu e-bostio drwy glicio yma.
  • Mae dwy fynedfa hygyrch i’r adeilad. Ar y llawr gwaelod, mae mynedfa ramp ar yr ochr chwith wrth wynebu’r adeilad. Pwyswch y botwm a bydd aelod o staff yn dod i agor y drws. Mae’r fynedfa arall ar ochr yr adeilad (trwy’r maes parcio). Pwyswch y botwm ar y wal a bydd aelod o staff yn agor y drws.
  • Mae’r Swyddfa Docynnau, y Bar Isaf a’r Stiwdio Ddawns i gyd ar y llawr gwaelod, gyda mynediad gwastad, ac mae lifft i’r llawr cyntaf.
  • Mae’r Theatr, y Bar Uchaf, Ystafell Markham (ystafell gyfarfod), yr Oriel a’r Lolfa ar y llawr cyntaf, gyda mynediad gwastad.
  • Mae toiledau ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf. Mae toiled hygyrch ar y llawr cyntaf.
  • Mae Ystafell Oakdale (ystafell gyfarfod) a swyddfa’r staff ar yr ail lawr; rhaid defnyddio grisiau i gyrraedd y rhain (dim mynediad lifft).

Cynllun mynediad

We're a Hynt venue

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn aelod o’r cynllun Hynt.

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ar draws Cymru. Menter gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Hynt wedi’i reoli gan Creu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru.

Mae gan y rhai â cherdyn Hynt yr hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelfyddydau sy’n rhan o’r cynllun.

Cewch archebu eich tocynnau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn gan ddefnyddio eich rhif cyfeirio Hynt unigryw wrth archebu. Gall gofalydd, cymar, cynorthwyydd personol neu drefnydd grŵp archebu ar ran deiliad cerdyn Hynt, ond mae’n rhaid i’r tocynnau gael eu rhyddhau i ddeiliaid y cerdyn, a rhaid iddynt ddangos cerdyn Hynt ffotograffig dilys bob tro.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i wefan Hynt.