Yn ôl i'r brig

Amdanom ni

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon,  yn ganolfan amlbwrpas, broffesiynol i’r celfyddydau perfformio ac yn adeilad hanesyddol eiconig a saif yng nghanol Cymoedd De-ddwyrain Cymru. Heddiw mae’n un o’r theatrau prysuraf a mwyaf bywiog yn Ne Cymru.

Ein gwaith

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon,  yn un o’r lleoliadau mwyaf cyffrous i’r celfyddydau perfformio yn Ne Cymru.
Rydym yn creu ac yn cyflwyno celfyddydau proffesiynol a chymunedol o’r ansawdd gorau i amrywiaeth fawr o gynulleidfaoedd a chyfranogwyr.

Rydym eisiau i bawb gael mynediad rhwydd i gelfyddydau a diwylliant gwych ac rydym yn gweithio’n galed i greu rhaglen gytbwys sydd wedi’i bwriadu i ysbrydoli, addysgu a difyrru.

Photo of a stage performance at Blackwood Miners' Institute

Bob blwyddyn rydym yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyfranogol, gan gynnwys drama, dawns, perfformiadau i’r teulu, cerddoriaeth fyw, opera, llenyddiaeth a chomedi, gan sicrhau y gall pawb brofi rhywbeth at ei ddant.

Sefydliad y Glowyr, Coed Duon,  yw’r unig leoliad proffesiynol yn y fwrdeistref sirol. Mae’r awdurdod lleol lle saif y Sefydliad wedi ymrwymo i gefnogi’r celfyddydau fel rhywbeth hanfodol sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr a’i goleddu. Mae Cyngor Caerffili yn cydnabod y cyfraniad mae’r celfyddydau’n ei wneud i adfywiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y rhanbarth ac i iechyd a lles y preswylwyr.

Mae’r Sefydliad ar gael fel adnodd i sefydliadau cymunedol ac amatur lleol ymarfer neu lwyfannu cynyrchiadau.

Rydym hefyd yn rhoi cymorth i artistiaid proffesiynol a chwmnïau sy’n dod i’r amlwg, er mwyn cefnogi creu theatr newydd.

Yn 2017 cydgynhyrchodd Sefydliad y Glowyr, Coed Duon,  a Theatrau Rhondda Cynon Taf fersiwn newydd o JASON & THE ARGONAUTS i blant 8 oed a hŷn. Cafodd y cynhyrchiad ei addasu gan Mark Williams, ei gyfarwyddo gan Julia Thomas a’i gynnal mewn nifer o leoliadau ar draws Cymru.


Ein pobl

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon,  yn cael ei reoli fel gwasanaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) ac ar hyn o bryd daw o dan y Gwasanaeth Adfywio a Chynllunio yn y Gyfadran Cymunedau.

O ddydd i ddydd mae’n cael ei reoli gan dîm bach o weithwyr celfyddydau proffesiynol ymroddedig.

Mae Tîm Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg: De-ddwyrain Cymru hefyd yn gweithio o’r lleoliad.

Cwrdd â’r tîm

Rheolwr y Theatr a Gwasanaethau’r Celfyddydau
Eloise Tong

Rheolwr Busnes a Gweithrediadau
Carys Wehden

Rheolwr Technegol
Robin Bainbridge

Rheolwr Technegol Cynorthwyol
Gavin Thomas

Technegydd
Liam Marshman

Swyddog Gweinyddu a Chyllid
Carol Small

Derbynyddion y Swyddfa Docynnau
Alyson Jones
Laura-Jane Harris

Rheolwr Dyletswydd
Shiralee Tucker
Denise Bridge
Alex John
Bob Mettyer

Swyddog Marchnata
Craig Clark

Cynorthwyydd Marchnata Twristiaeth a Chyrchfannau
Sam Hill

Uwch Swyddog Datblygu’r Celfyddydau
David Chamberlain

Swyddog Datblygu’r Celfyddydau
Bethan Ryland
Jordan Forse

Llywodraethiant

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon,  yn ymddiriedolaeth elusennol (elusen gofrestredig 1000905), a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw ei unig ymddiriedolwr corfforaethol. Mae’r Cabinet yn gweithredu fel ymddiriedolwyr i’r elusen.

Gellir gweld rhagor o fanylion am Gabinet CBSC yma..


Ein Hanes

Historical photo of Blackwood Miners' Institute

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon wedi cael ei weddnewid sawl tro i ddod yn lleoliad celfyddydau ac adloniant llewyrchus fel y mae heddiw.

Yn wreiddiol roedd Sefydliad Lles a Llyfrgell Glowyr Coed Duon, a adeiladwyd yn 1925 fel neuadd snwcer un llawr, yn eiddo i Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo a thalwyd amdano o gyflogau gweithwyr Glofa Oakdale ar raddfa o 3 ceiniog yr wythnos.

Yn 1936, ychwanegwyd dau lawr arall i’r adeilad i gynnwys y llwyfan, awditoriwm, llawr dawnsio, ystafell ddarllen, llyfrgell, ystafell fenywod ac ystafelloedd ymarfer i gymdeithasau lleol.

Roedd y digwyddiadau gwreiddiol a lwyfannwyd yn yr adeilad yn cynnwys dawnsfeydd amser te, snwcer / biliards, grwpiau darllen, ymarferion a chyfarfodydd undebau i’r glowyr lleol.

Ar ôl dadfeilio yn y 1970au-1980au yn sgil cau llawer o’r glofeydd lleol, cafodd yr adeilad ei drosglwyddo i Gyngor Islwyn fel ymddiriedolaeth elusennol yn 1990.

Cafodd ei adnewyddu a’i ailagor ym mis Chwefror 1992 fel lleoliad celfyddydau ac adloniant cymunedol diolch i gyllid oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Islwyn a’r Swyddfa Gymreig. Yn y gyfres o gyngherddau agoriadol perfformiodd plant ysgol lleol ar yr un llwyfan â Ken Dodd, Jasper Carrott ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn ymddiriedolaeth elusennol sy’n cael ei rheoli fel rhan o Wasanaeth Theatr a Chelfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn 2010, buddsoddodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili £1.6 miliwn mewn gwaith i’w adnewyddu’n llwyr. Cafodd y gwaith, a wnaethpwyd dros bedair blynedd, ei ariannu o Gronfa Rheoli Asedau’r awdurdod lleol.

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn cael cymorth cyllid oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn 2015, dyfarnodd Cyngor Celfyddydau Cymru statws Portffolio Celfyddydol Cymru i Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn adeilad rhestredig Gradd II* ac mae ganddo statws elusennol.

Elusen Gofrestredig: 1000905