Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn un o'r lleoliadau mwyaf cyffrous i’r celfyddydau perfformio yn Ne Cymru.
Rydym yn creu ac yn cyflwyno celfyddydau proffesiynol a chymunedol o’r ansawdd gorau i amrywiaeth fawr o gynulleidfaoedd a chyfranogwyr.
Rydym eisiau i bawb gael mynediad rhwydd i gelfyddydau a diwylliant gwych ac rydym yn gweithio’n galed i greu rhaglen gytbwys sydd wedi’i bwriadu i ysbrydoli, addysgu a difyrru.
Bob blwyddyn rydym yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyfranogol, gan gynnwys drama, dawns, perfformiadau i’r teulu, cerddoriaeth fyw, opera, llenyddiaeth a chomedi, gan sicrhau y gall pawb brofi rhywbeth at ei ddant.
Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yw’r unig leoliad proffesiynol yn y fwrdeistref sirol. Mae’r awdurdod lleol lle saif y Sefydliad wedi ymrwymo i gefnogi’r celfyddydau fel rhywbeth hanfodol sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr a’i goleddu. Mae Cyngor Caerffili yn cydnabod y cyfraniad mae’r celfyddydau’n ei wneud i adfywiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y rhanbarth ac i iechyd a lles y preswylwyr.
Mae’r Sefydliad ar gael fel adnodd i sefydliadau cymunedol ac amatur lleol ymarfer neu lwyfannu cynyrchiadau.
Rydym hefyd yn rhoi cymorth i artistiaid proffesiynol a chwmnïau sy’n dod i’r amlwg, er mwyn cefnogi creu theatr newydd.
Yn 2017 cydgynhyrchodd Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a Theatrau Rhondda Cynon Taf fersiwn newydd o JASON & THE ARGONAUTS i blant 8 oed a hŷn. Cafodd y cynhyrchiad ei addasu gan Mark Williams, ei gyfarwyddo gan Julia Thomas a’i gynnal mewn nifer o leoliadau ar draws Cymru.
Mae gan Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, berthynas hirsefydlog â Black RAT Productions. Ers 2010, rydym wedi cyd-gynhyrchu taith genedlaethol flynyddol a gyda’n gilydd rydym wedi ymrwymo i’r nod cyffredin o ddarparu cynyrchiadau o ansawdd da, nid yn unig i’n cynulleidfaoedd ni, ond i ateb y galw gan gynulleidfaoedd ar draws Cymru.
Ein cynyrchiadau blaenorol yw:
• BOUNCERS, gan John Godber (2010)
• UP’N’UNDER: THE WELSH TOUR, gan John Godber (2011)
• NEVILLE’S ISLAND, gan Tim Firth (2012)
• BOEING, gan Marc Camoletti (2013)
• BEDROOM FARCE gan Alan Ayckbourn (2014)
• THE 39 STEPS John Buchan ac Alfred Hitchcock, wedi’i addasu gan Patrick Barlow (2015)
• BOUNCERS, gan John Godber (2016)
• ONE MAN, TWO GUVNORS gan Richard Bean. Wedi’i seilio ar The Servant of Two Masters gan Carlo Goldoni (2017)
• Loot gan Joe Orton (2018)
• ART gan Yasmina Reza
