Dewch yn llu a pharatoi i gael eich syfrdanu gan y strafagansa un dyn, “Magic & Marvels,” wedi’i chyflwyno gan y perfformiwr arbennig ac aml-fedrus, Michael Jordan! Byddwch yn barod i gychwyn ar daith gyffrous i fyd llawn rhyfeddod a swyngyfaredd wrth i Michael arddangos ei dalentau anhygoel ym myd hud a lledrith a chelfyddydau’r syrcas.
Yn syth o’r Blackpool Tower Circus eiconig a’r “International Festival de Magie” fawreddog, mae Michael, yn ddiymdrech, yn cyfuno hud syfrdanol â champau anhygoel o jyglo a styntiau beiddgar. Gyda’i ddawn sioe swynol, bydd e’n eich gadael chi ar ymyl eich sedd, yn ebychu ag anghrediniaeth, ac yn bloeddio am ragor.
P’un a ydych chi’n hoffi rhithiau dirdynnol neu berfformwyr syrcas syfrdanol, mae “Magic & Marvels” yn addo i fod yn brofiad bythgofiadwy i gynulleidfaoedd o bob oed. Felly, dewch i ymuno â ni am brynhawn o hud pur wrth i Michael Jordan ddod ar y llwyfan i danio’ch dychymyg.
“Magic, pure and simple for all the family.”
Huddersfield Examiner
“He reminded me of The Greatest Showman’s enthusiasm to create something original and exciting.”
Blackpool Gazette
“A seriously fun show.”
Tripadvisor – Audience review